Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Iau, 21 Medi 2023
Amser:
09.34 -
13.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13476
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Nick Wood, Llywodraeth Cymru Mark Dayan, Ymddiriedolaeth Nuffield Yr Athro Scott Greer, University of Michigan |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf tymor yr hydref.
2 Canserau gynaecolegol: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru i ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi gwybodaeth am dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfraddau goroesi canser gynaecolegol.
2.3 Cytunodd Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru i ysgrifennu at y Pwyllgor yn rhoi gwybodaeth am gyhoeddi’r data cyfeirio diweddaraf yn ymwneud â’r llwybr canser sengl.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 7, 8 a 9
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Canserau gynaecolegol: trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a nododd feysydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.
5 Modelau Ewropeaidd o iechyd a gofal cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Dayan a’r Athro Scott Greer.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch amserlen y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.2 Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Cyllid ynghylch amserlen y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25
6.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.3 Llythyr ar y cyd gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
6.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.4 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
6.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.5 Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Swyddog Nyrsio Cymru ynghylch ymchwiliad y pwyllgor i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu
6.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.6 Llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru at y Cadeirydd ynghylch ymchwiliad y pwyllgor i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu
6.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.7 Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr argymhellion yn adroddiad y pwyllgor ar ei ymchwiliad i ddeintyddiaeth
6.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.8 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch yr argymhellion yn adroddiad y pwyllgor ar ei ymchwiliad i ddeintyddiaeth
6.8 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.9 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gohebiaeth a gafwyd gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru ynghylch cyflwyno'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru
6.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.10Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru
6.10 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.11Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ym maes gofal sylfaenol
6.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.12Llythyr ar y cyd gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
6.12 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.13Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
6.13 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.14Llythyr gan y Cadeirydd at yr Athro Dyfed Wyn Huws ynghylch cwestiynau dilynol o'r sesiwn dystiolaeth ar 29 Mehefin 2023 ynghylch canserau gynaecolegol
6.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.15Llythyr gan yr Athro Dyfed Wyn Huws at y Cadeirydd ynghylch cwestiynau dilynol o'r sesiwn dystiolaeth ar 29 Mehefin 2023 ynghylch canserau gynaecolegol
6.15 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.16Ymateb gan yr Athro Helen Thomas at y Cadeirydd ynghylch cwestiynau dilynol o'r sesiwn dystiolaeth ar 29 Mehefin 2023 ynghylch canserau gynaecolegol
6.16 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.17Llythyr gan Cerebral Palsy Cymru at y Cadeirydd ynghylch Cofrestr Parlys yr Ymennydd i Gymru
6.17 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.18Llythyr gan y Cadeirydd at Cerebral Palsy Cymru ynghylch Cofrestr Parlys yr Ymennydd i Gymru
6.18 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.19Llythyr gan y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y canllawiau rhyddhau cleifion cyndyn: rheoli rhyddhau cleifion cyndyn / trosglwyddo gofal i leoliad gofal mwy priodol
6.19 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.20Llythyr gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol at y Cadeirydd ynghylch ei Adroddiad Blynyddol a'i Gyfrifon ar gyfer 2022/23
6.20 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.21Llythyr ar y cyd gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Iechyd a Gofal Digidol Cymru ynghylch cyhoeddi adroddiad y pwyllgorau ar eu hymchwiliad: Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru
6.21 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.22Ymateb gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i'r llythyr ar y cyd gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch cyhoeddi adroddiad y pwyllgorau ar eu hymchwiliad: Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru
6.22 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.23Llythyr gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyhoeddi adroddiad y pwyllgorau ar eu hymchwiliad: Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru
6.23 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.24Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r llythyr ar y cyd gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch cyhoeddi adroddiad y pwyllgorau ar eu hymchwiliad: Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru
6.24 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.25Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch amseroedd aros y GIG
6.25 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.26Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.26 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.27Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weithredwyr Byrddau Iechyd y GIG ynghylch amseroedd aros
6.27 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.28Ymateb gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.28 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.29Ymateb gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.29 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
6.30Llythyr gan Brif Weithredwr Interim Bwrdd Iechyd Addysgu Powys at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.30 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.31Llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.31 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.32Llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.32 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.33Llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan at y Cadeirydd ynghylch amseroedd aros y GIG
6.33 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.34Llythyr ar y cyd gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Gadeirydd Interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch y sefyllfa bresennol
6.34 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.35Ymateb gan Brif Weithredwr Interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch y sefyllfa bresennol
6.35 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
7 Modelau Ewropeaidd o iechyd a gofal cymdeithasol: trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i drafod y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8 Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: dull gweithredu cam 2
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o weithredu yn ystod ail gam ei ymchwiliad i gefnogi pobl â chyflyrau cronig.
9 Blaenraglen Waith
9.1. Cytunodd y Pwyllgor ar ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref.